Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (199) |
Datganiad y Llywydd
Croesawodd y Llywydd y ddirprwyaeth o Senedd Canada, gan gynnwys Llefarydd Ail Dŷ’r Senedd, a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus.
1 Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 7 a 9 i 15. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 3 a 5 i 15. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl.
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.06
Cynnig i ethol aelodau i Bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 15.17
NDM5510 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gwyn Price (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Vaughan Gething (Llafur).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Addysg Uwch (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.17
5 Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014
Dechreuodd yr eitem am 16.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5508 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
9 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb – Fframwaith Gweithredu
Dechreuodd yr eitem am 16.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5507 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ‘Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ a’r Cynllun Cyflawni ategol, a lansiwyd ar 12 Mai 2014.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r pryder a fynegwyd gan y Cyngor Cydraddoldeb Hiliol yng Nghyfarfod Fforwm Hil Cymru ar 13 Mawrth 2014 bod materion yn ymwneud â hil yn isel ar yr agenda i Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
24 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofnodi a chyhoeddi troseddau casineb yn briodol am y tro cyntaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
8 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan gynghorau ysgol a llywodraethwyr ysgol, yn ogystal ag athrawon, teuluoedd a’r gymdeithas ehangach, rôl i’w chwarae i atal bwlio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5507 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ‘Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ a’r Cynllun Cyflawni ategol, a lansiwyd ar 12 Mai 2014.
2. Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofnodi a chyhoeddi troseddau casineb yn briodol am y tro cyntaf.
3. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan gynghorau ysgol a llywodraethwyr ysgol, yn ogystal ag athrawon, teuluoedd a’r gymdeithas ehangach, rôl i’w chwarae i atal bwlio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.03
Oherwydd nam technegol ar y system bleidleisio electronig, ataliwyd y trafodion tan 17.15. Ailymgynullodd y cyfarfod am 17.15, a chafodd yr Aelodau eu hysbysu gan y Dirprwy Lywydd y byddai angen pleidleisio drwy godi dwylo o dan Reol Sefydlog 12.43(i) a gofynnodd a oedd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Dim ond un Aelod oedd yn gwrthwynebu, felly aeth y Dirprwy Lywydd ymlaen â’r pleidleisio drwy godi dwylo.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.24
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 21 Mai 2014